P-05-1043 Sicrhau bod gweithgynhyrchu a chynhyrchu cyfarpar diogelu personol (PPE) digonol ar gyfer Cymru, yng Nghymru, ar ôl Covid-19

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Teresa Mary Carberry, ar ôl casglu cyfanswm o 127 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:          

Mae’r Argyfwng Corona presennol wedi tynnu sylw at ba mor annigonol yw’r mynediad at gyfarpar diogelu personol angenrheidiol i bawb sydd ei angen, a hynny ym mha bynnag leoliad iechyd neu ofal cymdeithasol y maent yn gweithio. Fel cenedl mae angen i ni ddod yn hunangynhaliol a pheidio â gorfod dibynnu ar gwmnïau tramor ac ati. Byddai hyn hefyd yn gofyn am arfarniad o ran storio, ailgyflenwi a dosbarthu’r eitemau dan sylw, ac yn darparu cyflogaeth i lawer o bobl.

Fel Mam i nyrs mewn Uned Gofal Dwys, rwy’n byw mewn ofn bob dydd am ei diogelwch. Ac nid fi yw’r unig riant sy’n poeni.

 

Gwybodaeth Ychwanegol

Mae sesiynau briffio newyddion dyddiol wedi tynnu sylw at ddiffyg trallodus o gyfarpar diogelu personol i’n gweithwyr hanfodol ym mhob lleoliad, ac mae hyn yn achosi straen gormodol, ac mewn rhai achosion mae’n arwain at haint anochel a lledaeniad y feirws. Mae cael rhwystr corfforol rhwng y rhai sydd â’r feirws a’r rhai sy’n gofalu amdanynt yn bwysig, ac mae’n diogelu gweithwyr rheng flaen. Mae’n ddyletswydd ac yn gyfrifoldeb ar bob un ohonom i sicrhau bod hyn yn bosibl. Byddai cynhyrchu cyfarpar diogelu personol yng Nghymru at ddefnydd pawb y mae’n ofynnol iddynt eu cael, beth bynnag yw lefel yr angen, yn gwarantu argaeledd, yn lleihau’r ôl troed carbon (dim hediadau mewnforio ac ati) ac yn rhoi ymdeimlad o ddiogelwch mawr ei angen i’r cyhoedd. Yn ogystal, byddai’n arwain at fod llawer o bobl yn dod o hyd i gyflogaeth newydd, fel peirianwyr, gweithwyr warws, staff rheoli ansawdd a gweithwyr ym maes logisteg, i enwi dim ond ychydig.

Mae llawer o bobl wedi ymateb i’r her ar hyn o bryd, ac maen nhw’n defnyddio’u sgiliau gwnïo yn dda. Er mor gymeradwy yw hyn, byddai gymaint yn well pe na baent wedi gorfod gwneud hynny.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

·         Delyn

·         Gogledd Cymru